Cyngor ynglŷn â phledrenni a choluddion plant o’r geni, i hyfforddiant poti, i’r ysgol

Erbyn iddynt ddechrau'r ysgol, dylai'r rhan fwyaf o blant allu gwisgo pants yn hyderus a rheoli pob agwedd ar fynd i'r toiled yn annibynnol, yn cynnwys sychu eu hun. Ond ni ellir cyflawni hyn heb hyfforddiant poti amserol.

Mae hyfforddiant poti yn garreg filltir anferth ym mywyd plentyn, ac mae’r paratoi’n dechrau pan enir y plentyn. Er mwyn iddo lwyddo, mae angen coluddyn a phledren iach ar y plentyn.

Pledrenni a choluddion iach

Y chwe mis cyntaf

  • Mae gan fabanod bledrenni bach iawn, felly maent yn gwneud llawer o bi-pis bach.
  • Dylai'r pi-pi fod yn wanhaëdig, bron yn ddi-liw, a byth yn ddrewllyd.
  • Mae amlder a thewychedd pŵ babanod bach yn dibynnu'n helaeth ar y bwyd a roddir iddynt, ond dylai pŵ babanod fod yn feddal bob amser, a chael ei basio bob yn ail ddiwrnod o leiaf.
    Mae babanod yn gallu mynd yn rhwym – hyd yn oed babanod sy’n bwydo ar y fron.
  • Darllenwch Baby poo - what to expect am ragor o wybodaeth.
  • Cadwch bledren a choluddyn eich baban yn iach drwy dalu sylw i faint maen nhw’n bwyta.
  • Mewn tywydd cynnes, dylech fwydo o'r fron yn amlach. Os yw’r baban yn cael eu bwydo â fformiwla, cynigiwch ddŵr wedi'i ferwi a’i oeri rhwng ffidiau.

O ddiddyfnu ymlaen

  • Wrth i'ch baban dyfu, byddant yn raddol yn gwneud pi-pi yn llai aml, ond dylent bob amser gael sawl cewyn/clwt gwlyb neu wneud sawl pi-pi yn y poti/toiled bob dydd.
  • Fel arfer mae plant o oed ysgol yn gwneud 4 – 7 pi-pi bob dydd. I ffeindio allan sut olwg sydd ar bi-pi iach, gweler Wee checker ERIC – dylai fod yn glir, bron yn ddi-liw, a byth yn ddrewllyd.
  • Pan fydd eich baban yn dechrau ar fwyd solet, bydd eu pŵ yn fwy trwchus a thywyll. Efallai byddant yn gwneud pŵ yn llai aml, ond dylent barhau i basio pŵ meddal bob dydd, neu o leiaf bob yn ail ddiwrnod.
  • Ffeindiwch allan sut olwg sydd ar pŵ iach gyda Poo checker ERIC. Math 4 yw'r pŵ delfrydol, mae math 5 yn iawn hefyd. Mae mathau 1 – 3 yn awgrymu rhwymedd. Gall mathau 6 a 7 olygu rhwymedd hefyd! Darllenwch Advice for children with constipation am ragor o wybodaeth. Nid yw rhwymedd yn gwella heb garthyddion.
  • Meddyliwch am beth mae eich baban yn ei yfed. Dylai llaeth y fron neu fformiwla fod yn brif ddiod iddynt tan yn un oed, ond bydd y maint yn gostwng wrth iddynt fwyta mwy o fwyd. Bydd baban 7-9 mis yn yfed tua 600ml o laeth y fron neu fformiwla, a baban 10-12 mis yn yfed tua 400ml o laeth y fron neu fformiwla. Wrth ddechrau diddyfnu, ychwanegwch sipiau o gwpaned o ddŵr gyda phob pryd – bydd y maint yn cynyddu wrth iddynt fagu hyder gyda'r cwpan.
  • Parhewch i wirio bod eich plentyn yn cael digon o ddiodydd wrth iddynt dyfu: o leiaf 6 – 8 cwpaned y dydd mewn cwpan o faint addas i'r plentyn, sef tua 120ml i blentyn 2 oed a 175ml i blentyn 5 oed.
  • Dosbarthwch y diodydd ar hyd y dydd – mae'r bledren wedi'i gwneud o gyhyrau, felly mae angen ymarfer rheolaidd arni.
  • Dŵr sydd orau, mae meintiau cymedrol o laeth yn iawn, a gellir cynnwys sudd neu ddiod ffrwythau wedi'u gwanedu’n dda hefyd.
  • Osgowch gaffein, cyfyngwch ar y siwgr a chadwch ddiodydd swigod fel trêt pan fyddant yn hŷn.
  • I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r bledren yn gweithio a'r 4 cam at bledren iach, darllenwch Advice for children with day time bladder problems ERIC.

Cyflwyno'r poti

Cyn y gallant ddechrau ar hyfforddiant poti, rhaid i'ch plentyn gael llawer o gyfleoedd i ddysgu am botis. Mae dysgu am botis yn golygu helpu eich plentyn i ddefnyddio poti neu doiled fel rhan o'u dysgu cyffredinol: mae babanod yn barod i ddysgu o'u geni.

Gall y rhan fwyaf o blant ddechrau dysgu sgiliau poti unwaith y gallant eistedd i fyny, fel arfer tua 6 - 9 mis. Does dim angen aros am ‘arwyddion o barodrwydd’ – dilynwch y dull 3 cham seiliedig ar dystiolaeth, Let's Go Potty. Bydd dechrau'n gynnar, cymryd amser, a gwneud hon yn daith raddol yn lleihau’r straen arnoch chi a'ch plentyn.

Darllenwch Let's Go Potty.

Dilynwch y 3 cham:

Cam 1: Paratoi

Cam 2: Ymarfer

Cam 3: Stopio defnyddio cewynnau/clytiau

Mae llawer o gyngor ymarferol ar gael i'ch helpu chi a'ch plentyn i symud drwy'r camau. Mwyaf oll bydd eich plentyn yn ymarfer, haws fydd pethau pan ddaw’r amser i stopio defnyddio clytiau.
Yn ôl yr ymchwil mae stopio defnyddio clytiau rhwng 18 a 30 mis yn well i iechyd pledren a choluddyn plant, felly bwriwn ati!

Eistedd ar y poti neu'r toiled

Rhaid i'ch plentyn fedru ymlacio ar y poti neu'r toiled er mwyn gwagio'u coluddyn a'u pledren yn iawn. Meddyliwch am ystafell ymolchi eich teulu: a yw’n fan ymlaciol? Gall goleuadau llachar, synau rhyfedd a llawer o arwynebau oer, caled fod yn heriol i rai plant.

Darllenwch Sensory needs and toileting a meddyliwch sut gall teimladau effeithio ar ymateb eich plentyn i ddefnyddio'r poti neu'r toiled. Cadwch deganau, gemau a llyfrau wrth ochr y toiled/poti fel y bydd yn fan hwyliog, a fydd yn helpu eich plentyn i ymlacio.

Nid yw dysgu am botis yn digwydd yn yr ystafell ymolchi yn unig. Gall defnyddio chwarae helpu i ddysgu’r disgwyliadau i'ch plentyn, ynghyd â'u symbylu. Helpwch ddoliau a thedis i ddefnyddio'r poti; siaradwch am pi-pis, pŵs, ystafelloedd ymolchi, toiledau; a darllenwch storïau gyda'ch gilydd.

Chwiliwch am lyfrau i blant yn Siop Ar-lein ERIC, ynghyd â gwybodaeth i oedolion.

Mae ystum eich plentyn wrth eistedd yn bwysig:

Boy blowing bubbles sitting on the toilet

  • Traed yn wastad ac yn gadarn ar focs neu stôl, y pengliniau'n uwch na'r cluniau.
  • Ystum eistedd saff – bydd angen sedd toiled plentyn arnynt wrth ddefnyddio’r toiled.

Mae eistedd yn gywir yn golygu y gall y coluddyn a'r bledren wagio'n well, ynghyd â helpu eich plentyn i ymlacio. Felly dylid annog bechgyn bach i eistedd i wneud eu pi-pis – ac efallai bydd angen pŵ arnynt hefyd.

Bydd cyrraedd ar yr amser cywir yn gwella'r tebygrwydd o lwyddo:

  • Yr amser delfrydol ar gyfer pŵs yw 20 – 30 munud ar ôl prydau, pan fod y coluddion yn gwasgu'n gyflymach yn naturiol.
  • Mae'r amser delfrydol ar gyfer pi-pis yn dibynnu ar ba bryd mae’r bledren yn llawn gan mae estyn cyhyrau'r bledren sy'n ysgogi'r broses wagio gywir. Peidiwch â chyfyngu ar ddiodydd eich plentyn i geisio'u cadw'n sych, a pheidiwch â mynd â nhw i'r toiled yn rhy aml gan na fydd y bledren fyth yn llawn wedyn. Gwiriwch glwt eich plentyn i asesu'r ysbaid rhwng eu pi-pis, a defnyddiwch hynny fel eich canllaw i amserlennu eistedd ar y poti.

Datblygu sgiliau

Wrth gwrs, bydd y cam ymarfer potis yn para tipyn, a byddwch yn ymateb i anghenion a galluoedd newidiol eich plentyn wrth iddynt dyfu. Dyma awgrymiadau i'w helpu i ddatblygu:

  • Siaradwch am y pi-pi a'r pŵ mae eich plentyn yn eu pasio i'w helpu i ddysgu geiriau ac arwyddion – yna, ymhen amser, byddant yn gallu mynegi eu hanghenion wrthych. Gwnewch yn siŵr fod cysondeb rhwng gwahanol aelodau o'r teulu/gofalwyr i osgoi drysu eich plentyn.
  • Cynhwyswch eich plentyn wrth wisgo a dadwisgo ar adegau poti a newid clytiau, a'u newid yn sefyll ar eu traed cyn gynted ag y gallant.
  • Ceisiwch gynnwys amser heb glwt. Pan fyddwch yn gwybod eu bod wedi gwneud pi-pi a pŵ, manteisiwch ar y cyfle i ymarfer gwisgo pants am hanner awr.
  • Pan fydd yr amser yn iawn, helpwch eich plentyn i ddysgu sut i sychu eu pen-ôl eu hun. Darllenwch Learning bottom wiping: a step-by -step guide.

Stopio defnyddio clytiau

Bydd stopio defnyddio clytiau yn newid mawr i'ch plentyn, ni waeth pa mor dda byddant wedi eu paratoi, ac ni waeth faint o ymarfer poti maent wedi'i wneud.

Felly sut mae dewis y foment gywir i ffarwelio â'r clytiau hynny?

Mae pob plentyn yn wahanol felly gadewch i'w cynnydd gyda Cham 1 – Paratoi, a Cham 2 – Ymarfer, ynghyd ag amgylchiadau eich teulu, eich llywio.

Peidiwch â stopio defnyddio clytiau ar adeg pan fod aflonyddwch neu newidiadau mawr ar y gweill, fel newid mewn gofal plant neu faban newydd ar fin cyrraedd.

Gwnewch yn siŵr bod y gwahaniaeth yn gwbl glir: ffarwel clytiau, helo pants. Bydd newid nôl a blaen rhwng clytiau /pants tynnu i fyny/pants go iawn yn drysu eich plentyn.

Dewiswch amser pan allwch chi a'ch plentyn fod gartref gyda'ch gilydd am y diwrnodau cyntaf, fel y bydd llai o wrthdyniadau.

Ewch amdani – a byddwch yn barod i fod yn amyneddgar, yn ddyfalbarhaus, ac yn bositif!

Ar ôl y diwrnodau cyntaf gartref, byddwch yn barod i fynd allan o gwmpas. Osgowch y demtasiwn i roi clwt amdanynt. Yn hytrach, paciwch y poti a dillad i newid a gorchuddiwch y gadair wthio neu sedd y car. Ewch i Siop Ar-lein ERIC am bethau fel potis cludadwy ac amddiffynyddion sedd car.

Meithrinfa ac Ysgol

Er mwyn i hyfforddiant poti fynd yn hwylus, mae angen cysondeb ar eich plentyn i'w helpu i ddysgu beth sydd angen iddynt ei wneud, boed gartref neu mewn gofal plant.

Os bydd eich plentyn yn dechrau mewn lleoliad gofal plant newydd, siaradwch â'r staff yn syth am fonitro iechyd y bledren a'r coluddyn, yn cynnwys nodi pi-pis, pŵs a diodydd.

Paratowch gyda'ch gilydd, cynlluniwch ymarfer poti, ac ymhen amser dewiswch amser da i stopio defnyddio clytiau, sy'n gweithio gartref ac yn y lleoliad.

Gyda dysgu poti amserol, bydd y rhan fwyaf o blant yn gwisgo pants yn hyderus yn hir cyn dechrau'r ysgol.

Weithiau, gall pethau gymryd ychydig yn hirach, efallai oherwydd rhwymedd neu broblem y bledren, neu efallai am fod gan eich plentyn anghenion ychwanegol.

Cysylltwch â'u hysgol mewn da bryd fel y byddant yn barod i gefnogi eich plentyn. Cynhwyswch weithiwr gofal cymdeithasol eich plentyn, fel eu Hymwelydd Iechyd neu Nyrs Ysgol, ac unrhyw un arall sy'n helpu i ofalu am eich plentyn, fel Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd.

Helpwch yr ysgol i ddeall sut i ddiwallu anghenion eich plentyn – darllenwch Using the toilet at school.

Weithiau mae plentyn sydd wedi gwneud yn dda gyda hyfforddiant poti yn llithro'n ôl pan fyddant yn dechrau mynd i'r ysgol. Efallai eu bod ofn gofyn am gael mynd i'r toiled, ac felly dydyn nhw ddim yn yfed ac yn dechrau ymatal.

Gwiriwch beth mae eich plentyn yn ei yfed yn yr ysgol, trafodwch doiledau'r ysgol a ph'un a maen nhw'n eu defnyddio, a monitrwch eu harferion gwneud pŵ gartref. Mae'n well nodi newidiadau a'u rheoli'n gynnar cyn i broblem ddatblygu.

Beth am yn ystod y nos?

Mae rhai plant yn sych yn y nos yn fuan ar ôl cael llwyddiant yn ystod y dydd, ond i eraill mae'n ddiweddarach o lawer. Os yw eich plentyn yn dal yn wlyb yn y nos, peidiwch â phoeni. Mae'n gyffredin mewn plant ifanc, ond os ydyn nhw'n dal yn wlyb ar ôl 5 oed, mae triniaeth ar gael.

Y cam cyntaf yw gweithio ar bledrenni a choluddion iach – felly cadwch lygad ar yr yfed a gwyliwch rhag rhwymedd bob amser.

Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn mynd i’r arfer o gael eu diod olaf awr cyn amser gwely – os ydynt yn dihuno am ddiod yn y nos, cynigiwch ddŵr yn unig iddynt. Anogwch nhw i wneud pi-pi y peth olaf cyn cysgu bob amser.

Diogelwch eu matres gyda gorchudd diddos fel na fydd damweiniau o bwys – ewch i Siop Ar-lein ERIC

Os yw'r gwlychu'n parhau, darllenwch Advice for children with night time wetting.

Beth os ydy popeth yn mynd o chwith?

Peidiwch â phoeni. Hyd yn oed gyda'r paratoi a'r ymarfer gorau, mae rhai plant yn ei chael hi'n anodd. Chwiliwch am fwy o wybodaeth ar wefan ERIC, ac os na allwch ffeindio beth sydd ei angen arnoch, cysylltwch â Llinell Gymorth ERIC.

Last Reviewed: August 2024

Next Review: August 2027

On this page...

    Upcoming events

    Share this page