Cyngor ynglŷn â phledrenni, coluddion a mynd i’r toiled i blant ag anghenion ychwanegol
(Advice about bladders, bowels and toileting for children with additional needs, Welsh translation)
Beth mae plant ag anghenion ychwanegol yn ei olygu?
- Plant ag AAAA (Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd)
- Plant ag ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol)
- Plant ag Oedi Mewn Datblygiad Cyffredinol
- Plant sy'n niwrowahanol
Mae cymaint o dermau cyfunol yn cael eu defnyddio, ynghyd â llu o ddiagnosisau fel parlys yr ymennydd, awtistiaeth a syndrom Down.
Er bod anghenion unigol plant yn amrywiol ac yn unigryw, mae yna egwyddorion y gallwn eu cymhwyso i'n helpu i ofalu am goluddion a phledrenni'r holl blant hyn, a'u llywio at y toiled.
Y prif negeseuon
- Os oes gan eich plentyn anabledd dysgu neu gorfforol, nid yw hyn yn golygu o reidrwydd na ellir eu hyfforddi i ddefnyddio'r toiled.
- Gall bron pob plentyn ddysgu sut i fod yn lân ac yn sych – gall gymryd yn hirach, ac efallai bydd angen mwy o gymorth arnynt, ond mae hyfforddiant i ddefnyddio’r toiled yn sgìl byw. Bydd dysgu sut i wneud pi-pi a pŵ yn y toiled yn newid dyfodol eich plentyn.
- Hirach oll fydd eich plentyn yn gwisgo cewyn/clwt, anoddach fydd hi i gyflwyno lle newydd i wneud pi-pi a pŵ iddynt, felly peidiwch ag oedi.
Ble mae dechrau
Mae'r dull 3 cham Let’s Go Potty, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn ddelfrydol i blant ag anghenion ychwanegol. Darllenwch Advice about children's bladders and bowels - from birth to potty training to school – mae'r wybodaeth yn berthnasol i bob plentyn.
Dylai plant ag anghenion ychwanegol gael yr un cyfleoedd â phob plentyn arall i ddysgu sgiliau defnyddio'r toiled. Defnyddiwch y dull 3 cham Let’s Go Potty o'r cychwyn cyntaf.
Beth os yw fy mhlentyn yn hŷn?
Peidiwch â phoeni! Er ei bod yn well dechrau'n gynnar, gall plant hŷn gael help i gyflawni eu potensial mynd i'r toiled o hyd. A’r man cychwyn eto fydd hwyluso coluddion a phledrenni iach.
Dylech amau rhwymedd bob amser
Mae traean o’r holl blant yn mynd yn rhwym – ac mae'n fwy cyffredin fyth mewn plant ag anghenion ychwanegol. Mae llawer o wahanol resymau am hyn, fel:
- Anawsterau cyfathrebu
- Problemau symudedd
- Deiet cyfyngedig
- Cymeriant hylif isel
- Gall rhwymedd fod yn sgil effaith eu meddyginiaeth hanfodol
Os ydy pŵ eich plentyn wedi bod yn debyg erioed, efallai na fyddwch yn sylweddoli eu bod yn rhwym. Darllenwch Advice for children with constipation.
Weithiau mae'n rhaid i blant gymryd dosiau mawr o garthydd i glirio ôl-groniad o pŵ. Gelwir hyn yn ddatgywasgu. Ni allwch niweidio eich plentyn drwy roi carthyddion iddynt – ond bydd peidio â thrin rhwymedd yn achosi problemau i'r bledren a'r coluddyn, a bydd hyn yn arafu eu cynnydd wrth eu hyfforddi i fynd i’r toiled.
Os ydych yn amau – cliriad sydd orau!
Beth am y bledren?
Gall fod yn anodd iawn annog plant ag anghenion ychwanegol i yfed digon. Efallai byddant yn amharod i yfed, yn ei chael hi'n anodd yn gorfforol, neu mae ganddynt anghenion synhwyraidd fel nad ydynt yn sylweddoli pan fod syched arnynt.
Y peth pwysig i'w gofio yw: peidiwch â rhoi'r gorau iddi! Byddwch yn ddyfalbarhaus ac yn ddychmygus. Dyma syniadau a all helpu:
- Datblygu arfer - diod gyda phob pryd ac un ddiod o leiaf rhwng prydau. Peidiwch â gofyn i'ch plentyn a ydynt yn sychedig, neu a hoffent gael diod. Dywedwch yn syml: “Mae'n amser yfed rhywbeth!”
- Gwnewch ddiodydd yn ddiddorol. Darllenwch Tips for better drinking am syniadau fel cynnig amrywiaeth o boteli/cwpanau sipian/cwpanau doniol/gwellt, ynghyd ag amrywiaeth o flasau a thymereddau.
- Os oes modd, rhowch fwydydd gyda chynnwys dŵr uchel fel ffrwythau, jeli, cawl, salad ac iogwrt.
- Os yw eich plentyn yn cael eu bwydo drwy diwb, siaradwch â'u dietegydd – gwiriwch eu bod yn cael digon o ddŵr yn ogystal â'u ffidiau.
Cymorth ychwanegol
- A oes angen poti arbennig neu gadair toiled ar eich plentyn? Gofynnwch am asesiad ThG (Therapydd Galwedigaethol) os ydych yn credu na allant eistedd yn ddiogel ac yn gyfforddus yn yr ystum cywir ar doiled y teulu.
- Bydd cyfathrebu cyson yn chwarae rhan bwysig wrth gael eich plentyn i dderbyn y poti neu’r toiled. Siaradwch â phawb sy'n gofalu am eich plentyn: cytunwch ar ba eiriau/arwyddion/ symbolau darluniadol/lluniau byddwch yn eu defnyddio i fynegi ei bod yn amser mynd i’r toiled. Gall rhai plant ymateb i wrthrych cyfeiriol, fel dangos rholyn toiled iddynt.
- Ystyriwch Anghenion synhwyraidd eich plentyn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gallu anwybyddu llawer o'r wybodaeth synhwyraidd (golygfeydd, synau, aroglau, gweadau) yn y byd o'u cwmpas. Yn aml ni all plant wneud hyn cystal, ac maent yn cael eu gorlethu'n hawdd. Mae ein synhwyrau gweld, clywed, arogleuo a chyffwrdd yn cael eu peledu wrth fynd i mewn i'r ystafell ymolchi – gall goleuadau llachar, synau rhyfedd, arogleuon cryf ac arwynebau oer, caled greu awyrgylch anodd iawn. Ni fydd eich plentyn yn gallu ymlacio – ond mae’n rhaid ymlacio i adael y pi-pi a'r pŵ allan. Ewch ati i addasu'r ystafell ymolchi a chreu amgylchedd addas ar gyfer eich plentyn.
- Yn ddelfrydol, bydd amser yn yr ystafell ymolchi ar y poti/toiled wedi bod yn rhan o ddiwrnod eich plentyn ers pan oeddent yn ifanc iawn. Ond weithiau dydy hyn ddim wedi bod yn bosibl, a gall y plentyn fynd yn bryderus a cheisio osgoi defnyddio'r toiled. Darllenwch Toilet anxiety Stool withholding a Children who will only poo in a nappy and other toilet avoiders. Dilynwch y strategaethau a awgrymir i gyfarwyddo eich plentyn yn raddol â'r toiled.
Bwrw ati gyda mynd i'r toiled
Ar ôl gweithio ar goluddyn a phledren iach, a sicrhau bod yr ystafell ymolchi yn fan cyfarwydd a hapus, beth ddylech chi ei wneud nesaf?
Meddyliwch nôl am y dull 3 cham, Let’s Go Potty. Rydych wedi cwblhau Cam 1 – Paratoi, ac mae popeth yn ei le ar gyfer Cam 2 – Ymarfer.
Y cam nesaf felly – mae'n amser i chi helpu eich plentyn i ymarfer eistedd ar y poti neu'r toiled. Datblygwch rwtîn fel y byddant yn ymarfer eistedd ar amserau tebyg bob dydd. Gosodwch gasgliad o deganau a gweithgareddau yn yr ystafell ymolchi, fel ei bod yn fan hwyliog.
- Gall fod yn anodd iawn penderfynu pryd i symud i Gam 3 – Stopio Defnyddio Cewynnau/Clytiau, ond mae offer ar gael i'ch helpu i benderfynu ar yr amser iawn:1. Llenwi’r Bladder/Bowel Assessment Chart. Mae hwn yn erfyn syml all eich helpu i weithio allan pryd yn union mae eich plentyn yn gwneud pi-pi a pŵ, a'ch helpu i weld a oes angen delio â rhywbeth i hyrwyddo pledren a choluddyn iach.
- Defnyddio’r data a gasgloch i lenwi’r Toilet Readiness Assessment. Mae’n erfyn syml arall i'ch helpu i benderfynu a yw'n amser da i symud i wisgo pants, neu a oes angen mwy o waith yn gyntaf.
- Cynllunio ffyrdd o lywio eich plentyn trwy bob cam:
- Rhoi gwybod ei bod yn amser toiled – gweler y Potty prompt cards
- Symud drwy'r camau sydd ynghlwm wrth fynd i'r toiled – darllenwch y Toilet visual schedule, Tom Tag toilet a'r Toilet Time Resource
- Sicrhau bod hon yn daith arbennig i'ch plentyn – darllenwch y Toileting social script
- Siarad â phawb sydd ynghlwm wrth ofal eich plentyn. Cynllunio gyda'ch gilydd – mae angen cysondeb ar eich plentyn. Sicrhau bod hon yn daith raddol – dewis un neu ddau gam bach ar y tro i weithio arnynt.
- Parhau i ddefnyddio'r offer i lywio camau nesaf eich plentyn. Pan fyddant yn barod i stopio defnyddio clytiau, defnyddiwch y pethau a ddysgoch o'r Bladder/Bowel Assessment Chart i greu amserlen mynd i'r toiled, fel y bydd pawb sy'n gofalu am eich plentyn yn gyfarwydd â'u hamserau mynd i'r toiled. Adeiladwch yr amserlen o gwmpas eich trefnau ymarfer presennol.
Peidiwch â disgwyl gweld llwyddiant yn syth. Hyd yn oed gyda'r paratoi a'r ymarfer gorau, bydd damweiniau’n digwydd wrth stopio defnyddio clytiau. Chwiliwch am fwy o wybodaeth ar wefan ERIC, ac os na allwch ffeindio beth sydd ei angen arnoch, cysylltwch â Llinell Gymorth ERIC.
Byddwch yn amyneddgar, yn ddyfalbarhaus ac yn gadarnhaol.
Beth am blant na allant gyflawni ymataliaeth?
Ni waeth beth yw'r lefel ymataliaeth y gall eich plentyn ei chyflawni, mae hyrwyddo coluddyn a phledren iach yn hanfodol. Gall rhwymedd heb ei drin arwain at pŵs rhydd, aml a all achosi croen llidus. Mae coluddyn llawn yn llenwi'r lle sydd ei angen ar y bledren, gan achosi pi-pis bach, aml a risg uchel o Haint y Llwybr Wrinol (UTI).
Dylai POB plentyn yfed digon o hylifau, osgoi rhwymedd a chael monitro eu pi-pis a'u pŵs.
Yn achos plant lle mae'n annhebygol y bydd hyfforddiant mynd i’r toiled yn bosibl, y flaenoriaeth yw rheoli'r pi-pi a'r pŵ yn y ffordd fwyaf cyfforddus ac effeithiol posibl.
Gallai eich plentyn fod yn gymwys i dderbyn clytiau neu badiau gan y GIG o 5 oed ymlaen. Mae canllawiau a gydnabyddir yn genedlaethol yn pennu cymhwysedd plant i gael cynhyrchion, a'r esbonio’r broses ar gyfer eu cyflenwi. Bydd gan eich gwasanaeth ymataliaeth lleol eu meini prawf eu hun hefyd. Darllenwch y Flowchart - Children with Additional Needs i ffeindio allan sut ddylai eich gweithwyr gofal proffesiynol lleol gefnogi eich plentyn.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y budd mwyaf o'ch cynhyrchion. Darllenwch y Guidance for parents/carers using disposable containment products (nappies, pull-ups, pads) am awgrymiadau ar storio, ffitio, defnyddio hufenau ac ati. Gellir osgoi'r rhan fwyaf o ollyngiadau os ydych yn gwybod beth yw’r ffordd orau o ddefnyddio'r cynhyrchion.
Mae Rhaglen Ddysgu Ar-lein benodedig ar gael ar gyfer Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar fel Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant, i lywio'u gofal dros iechyd pledren a choluddyn plant a sut i reoli hyfforddiant poti, yn cynnwys ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol.
Last Reviewed: August 2024
Next Review: August 2027
Upcoming events
Share this page
