Cyngor i blant sydd â rhwymedd

Sut mae'r coluddyn yn gweithio?

  • Mae'r bwyd a fwytawn yn cael ei gorddi yn y stumog a'i droi'n gymysgedd tebyg i gawl.
  • Mae hwn yn symud i'r coluddyn bach, lle mae'r holl faetholion (y pethau da) yn cael eu tynnu a'u defnyddio gan y corff i'n cadw'n iach.
  • Wrth iddo symud ar hyd y coluddyn mawr, mae dŵr yn cael ei amsugno ac mae'r pŵ yn troi'n siâp sosej lefn yn barod i'w ysgarthu.
  • Mae'r pŵ yn y coluddyn mawr yn symud ymlaen bob tro y bydd cyhyrau'r perfeddion yn ymwasgu.
  • Pan fydd y pŵ yn cyrraedd y rectwm, mae'r rectwm yn ymestyn gan anfon neges at yr ymennydd i ddweud bod angen pŵ arnom.

Beth all fynd o'i le?

  • Os nad ydym yn ymateb i'r neges hon, mae'r pŵ yn aros yno.
  • Mae cyhyrau'r perfeddion yn parhau i wasgu, felly mae mwy o pŵ yn cyrraedd, ac wrth i'r pŵ gronni yn y coluddyn mawr, mae mwy o ddŵr yn cael ei amsugno, ac mae'r pŵ yn caledu ac yn mynd yn sownd.
  • Nid oes negeseuon yn cael eu hanfon at yr ymennydd oni bai fod y rectwm yn ymestyn. Os yw'n parhau'n estynedig, ni chewch neges newydd yn dweud bod angen pŵ arnoch.
  • Cyn hir bydd gennych dagfa pŵ, a elwir hefyd yn rhwymedd.

Mae rhwymedd yn gyffredin iawn mewn plant, gan effeithio ar 1 o bob 3, hyd yn oed babanod. Peidiwch ag aros iddo wella ar ei ben ei hun. GWNEWCH RYWBETH!

Gwirydd pŵ - beth mae eich pŵ yn dweud wrthych?

Chart with images of different types of poo, Welsh translation

*Ar sail Graddfa Mathau o Garthion Bryste a gynhyrchwyd gan Dr KW Heaton, Darlithydd mewn Meddygaeth ym Mhrifysgol Bryste.

Sut ydych chi'n gwybod bod plentyn yn rhwym?

  • Dylai plant basio pŵ meddal bob dydd, neu bob yn ail ddiwrnod o leiaf.
  • Mae pasio mathau 1 - 3 yn golygu bod y pŵ yn eistedd mewn tagfa.
  • Mae gwneud pŵ llai na 4 gwaith yr wythnos hefyd yn golygu tagfa pŵ.
  • Mae gwneud pŵ mwy na 3 gwaith y dydd yn arwydd bod y coluddyn yn llawn, ac yn gollwng rhyw ychydig ar y tro.
  • Baeddu – gall fod yn ddarnau caled, stwff meddal neu hyd yn oed hylif sy'n osgoi'r dagfa, gelwir hyn yn orlif. Ni all y plentyn reoli hyn.
  • Pŵs mawr, neu lawer o pŵ ar unwaith.
  • Poen yn y bol neu frifo wrth wneud pŵ.
  • Bol estynedig/chwyddedig.
  • Pŵ/gwynt drewllyd iawn, neu wynt drwg ar yr anadl.
  • Dim chwant bwyd efallai, neu deimlo'n sâl hyd yn oed.
  • Efallai bydd y coluddyn llawn yn gwasgu ar y bledren gan achosi pi-pis bach aml/brys/gwlychu yn ystod y dydd neu'r nos/heintiau'r llwybr wrinol.

 

Drawing of normal v constipated bowel, Welsh translation

MAE CAEL DIM OND 2 O'R SYMPTOMAU HYN YN GOLYGU RHWYMEDD!

Sut i drin rhwymedd

  • Cadw Dyddiadur Pŵ am bythefnos: ei olwg, maint, i ble mae'n mynd.
  • Gweld eich meddyg teulu: Ewch â'r dyddiadur pŵ gyda chi ac esbonio holl symptomau eich plentyn
  • Dylai'r meddyg teulu archwilio eich plentyn a gofyn cwestiynau i wirio a yw’r rhwymedd yn ymgodi o gyflwr gwaelodol
  • Dylai'r meddyg teulu ragnodi carthydd macrogol fel Movicol, Laxido neu CosmoCol sy'n meddalu'r pŵ a helpu i'w symud yn ei flaen (yn unol â Chanllawiau NICE)

Cymryd carthyddion

  • Rhaid cymysgu'r macrogol â'r maint cywir o ddŵr yn gyntaf, ac yna ychwanegu bwyd/diod arall – darllenwch: How to use macrogol laxatives.
  • Mae'r rhan fwyaf o blant yn dechrau gyda datgywasgu, sef cymryd llawer o foddion i glirio'r ôl-groniad o pŵ – darllenwch: A Parent’s Guide to Disimpaction.
  • Pan fydd y coluddyn yn glir bydd angen iddyn nhw barhau i gymryd dos llai bob dydd i gadw eu pŵ yn feddal ac yn symud.
  • Efallai bydd angen i'ch plentyn barhau â'r carthyddion am amser hir, ond peidiwch â phoeni, ni fydd y carthyddion yn eu niweidio. Fodd bynnag, yn y tymor hir, bydd peidio â thrin rhwymedd yn gywir yn niweidiol iawn.

Gwneud y pŵ yn y lŵ

  • Cyrraedd ar yr amser cywir – 20 i 30 munud ar ôl prydau a chyn mynd i'r gwely.
  • Eistedd yn gywir – traed yn wastad ac yn gadarn ar focs neu stôl, y pengliniau’n uwch na’rBoy blowing bubbles sitting on the toilet cluniau. Ystum eistedd saff – efallai bydd angen sedd toiled plentyn arnynt.
  • YMLACIO i adael y pŵ allan. Cadwch deganau, gemau a llyfrau wrth ochr y toiled.

CEISIWCH SICRHAU BOD POB SESIWN AR Y TOILED ‘YN EGNÏOL’ DRWY WNEUD GWEITHGAREDDAU CHWARAE AC YMARFERION BOB YN AIL:

  • Gall tylino'r bol mewn cylchoedd clocwedd, a siglo nôl a blaen ar y toiled fod o help mawr.
  • Mae chwerthin/pesychu/chwythu yn helpu i wthio i lawr gyda chyhyrau'r bol.
  • Gwnewch hwn yn amser hwyliog! Darllenwch Toileting Reward Chart ERIC am ragor o syniadau i symbylu eich plentyn. Dylai eistedd ar y tŷ bach am 10 - 15 munud fod yn ddigon hir.

Hyrwyddo coluddyn iach

  • Anogwch eich plentyn i yfed 6 - 8 diod seiliedig ar ddŵr bob dydd.
  • Cynhwyswch ffrwythau a llysiau yn eu deiet.
  • Ymarferwch a symudwch o gwmpas!

Gwybodaeth ychwanegol

Last Reviewed: February 2024

Next Review: February 2027

On this page...

    Upcoming events

    Share this page