Cyngor ar gyfer plant sydd â phroblemau’r bledren yn ystod y dydd

Mae pledrenni'n camymddwyn yn aml yn ystod plentyndod. Mae bron pob un yn broblem ymarferol, sy'n golygu bod popeth yn y lle cywir a dylai fedru gweithio'n iawn. Gellir datrys y rhan fwyaf drwy weithio'n galed ar y 4 cam at bledren iach.

Sut mae'r bledren yn gweithio?

Pan fyddwn yn yfed diod, mae'r hylif yn symud i lawr drwy ein coluddion ac yn cael ei amsugno i lif y gwaed. Mae gwaed yn cael ei bwmpio o gwmpas y corff gan y galon.

Wrth iddo lifo drwy'r arennau, caiff ei hidlo i gael gwared â'r holl hylif gwastraff.

Mae'r hylif gwastraff – troeth, neu pi-pi – yn draenio ar hyd tiwbiau hir, tenau o'r enw wreterau ac i mewn i'r bledren.

Labelled diagram of bladder - Welsh

  • Mae'r bledren yn storio'r pi-pi. Mae ganddi ddwy set o gyhyrau:
    1. Mae'r bledren ei hun yn debyg i falŵn â chyhyrau sy'n ymestyn a gwasgu. Rhaid iddynt ymlacio i ganiatáu i'r bledren lenwi â phi-pi.
    2. Mae'r cyhyrau dal gafael ar waelod y bledren yn cyfangu i ddal yr holl bi-pi i mewn.
  • Pan fod y bledren yn llawn, mae'r cyhyrau ymestynnol yn anfon neges at yr ymennydd yn dweud bod angen pi-pi arnom.
  • Mae'r ymennydd yn ymateb gyda neges yn dweud wrth y ddwy set o gyhyrau beth i'w wneud: y rhai dal gafael i ymlacio ac agor, y lleill i wasgu a pharhau i wasgu nes bod y bledren yn wag. NEU, os yw gwagio'n syth yn anghyfleus, mae'n anfon neges i ddweud wrth y cyhyrau am aros.

4 cam at bledren iach

Mae pledren iach yn storio pi-pi ar bwysedd isel ac yn gwagio rhwng 4 - 7 gwaith y dydd mewn plant o oed ysgol, ac yn amlach mewn plant iau.

Cam 1. Y peth cyntaf i'w wirio yw'r coluddyn!

Mae tagfa pŵ yn golygu bod y man lle mae angen i'r bledren ehangu a llenwi wedi ei gymryd gan y coluddyn llawn. Mae tagfeydd pŵ – neu rwymedd – yn gyffredin iawn mewn plant. Felly, os nad yw'r bledren yn ymddwyn yn iawn, dylech amau bob amser mae pŵ sy'n euog!

Sut mae rhwymedd yn effeithio ar y bledren?

  • Pi-pis bach, aml
  • Brys
  • Gwlychu yn ystod y dydd
  • Gwlychu yn ystod y nos
  • Risg o Haint y Llwybr Wrinol (UTI)

Sut rydych chi'n gwirio?

  • Dylai pŵ fod yn feddal ac yn hawdd ei basio bob amser.
  • Dylai plant wneud pŵ rhwng 3 gwaith y dydd a 4 gwaith yr wythnos.
  • Mae pŵs mawr, bol chwyddedig a phants wedi baeddu bob un yn awgrymu rhwymedd. Darllenwch Advice for Children with Constipation ERIC am ragor o gliwiau a gwybodaeth am sut i'w drin.

Cam 2. Y peth nesaf i wylio amdano yw haint y llwybr wrinol

Gall haint yn y pi-pi wneud i'r bledren gamymddwyn. Weithiau nid yw’r plentyn yn amlwg yn sâl, felly ni fyddech yn sylwi bod yna UTI.

Sut fyddai uti yn effeithio ar y bledren?

  • Pi-pis bach, aml
  • Brys
  • Gwlychu yn ystod y dydd
  • Gwlychu yn ystod y nos

Sut rydych chi'n gwirio?

  • Gallai'r pi-pi fod yn ddrewllyd ac/neu'n gymylog.
  • Gallai'r plentyn gwyno bod ganddynt boen yn y bol neu bi-pi sy'n pigo.
  • Ewch at y meddyg teulu – mae prawf syml i gadarnhau a oes ganddynt UTI.

Cam 3. Rhaid i'r yfed fod yn iawn!

Mae beth rydych yn ei yfed yn chwarae rhan bwysig iawn yn ymddygiad eich pledren. Cofiwch fod pledrenni wedi'u gwneud o gyhyrau – mae angen ymarfer ar bob cyhyryn i gadw'n heini.

Yfwch ddigon

  • O leiaf 6 – 8 cwpaned o ddiod bob dydd.
  • Dewiswch gwpan sy'n addas i oed eich plentyn – e.e. 200ml yn 7 oed, 250ml yn 11 oed.
  • Mae pi-pi crynodedig yn ddrwg iawn i bledrenni! Mae'n llidio'r bledren, ac yn gwneud iddi ymwasgu pan na ddylai.
  • Bwriwch olwg ar ein Wee Checker i weld pa mor hydradol ydych chi.

Dosbarthwch y diodydd ar hyd y dydd

  • Dechreuwch gyda diod neu ddwy y peth cyntaf yn y bore.
  • Parhewch i yfed yn yr ysgol/meithrinfa – peidiwch ag aros i gyrraedd adref!
  • Defnyddiwch y Drinking Reward Chart i gynllunio yfed iach.

Yfed y pethau cywir

  • Dŵr sydd orau.
  • Mae meintiau cymedrol o laeth yn iawn.
  • Mae sudd a diod ffrwythau wedi'u gwanedu'n dda yn iawn hefyd.

Beth i'w osgoi

  • Caffein! Dydy pledrenni wir ddim yn ei hoffi!
  • Mae rhai pobl yn gweld bod diodydd swigod/cyrens duon/oren/lliwiau artiffisial/cyflasynnau/melysyddion yn gwneud i'w pledren gamymddwyn, gan y gallant lidio'r bledren.

Cam 4. Ymlacio i wneud pi-pi

Pan fod angen gwneud pi-pi, mae’r ymennydd yn dweud wrth y ddwy set o gyhyrau beth i'w wneud i ollwng y pi-pi. Ond, ni all y negeseuon gyrraedd oni bai fyddwn yn ymlacio.

  • Eistedd yn gywir – traed yn wastad ac yn gadarn ar focs neu stôl, y pengliniau yn uwch na'r cluniau. Ystum eistedd saff – efallai bydd angen sedd toiled plentyn.
  • YMLACIO i adael y pi-pi allan. Cadwch deganau, gemau a llyfrau wrth ochr y toiled. Cymerwch eich amser.
  • Does dim rhaid i fechgyn sefyll i wneud pi-pi! Mae ymlacio lawer yn haws wrth eistedd, ac mae'n helpu'r bledren i ollwng cymaint o bi-pi â phosibl. Ac efallai bydd angen pŵ arnynt hefyd.

Fel arfer mae plant angen gwneud pi-pi 4 – 7 gwaith y dydd. Mae gohirio pi-pis yn ddrwg i'r bledren – a gwneud pi-pi yn rhy aml hefyd!

Anogwch eich plentyn i wrando am signalau gan eu pledren – ac i ymateb ar unwaith. Defnyddiwch y Toileting Reward Chart i'w helpu i gynllunio ymweliadau â'r toiled os oes angen, ac i'w symbylu!

Peidiwch â phoeni!

Efallai bydd pethau'n gwaethygu cyn gwella – ni fydd pledren sy'n anghyfarwydd â storio llawer o bi-pi yn ymdopi'n syth â mwy o ddiodydd! Mae angen amser i hyfforddi’r bledren i ymddwyn yn iawn.

Beth os yw'r problemau’n parhau?

  • Cadwch gofnod o sut mae'r bledren yn ymddwyn gan nodi diodydd, tripiau i'r toiled a damweiniau. Bydd Intake-Output Chart ERIC yn eich helpu i ddogfennu'r holl fanylion.
  • Ewch at eich meddyg teulu:
    • Ewch â'r siart gyda chi ac esboniwch holl symptomau eich plentyn.
    • Dylai'r meddyg teulu archwilio eich plentyn a gofyn cwestiynau i wirio a allai'r problemau gyda'r bledren fod yn ymgodi o gyflwr gwaelodol. Mae hyn yn anghyffredin, ond mae'n bwysig gwirio.
    • Mae nifer o wahanol resymau pam fod pledrenni'n camymddwyn – bydd asesiad manwl yn helpu i benderfynu beth sy'n bod ac i bennu triniaeth. Efallai gall y meddyg teulu wneud hyn ei hun, neu gall atgyfeirio'r plentyn at glinig arbenigol.
  • Meddyliwch am gynhyrchion allai helpu i reoli’r gwlychu. Bydd angen amser i ddiagnosio a thrin y broblem; yn y cyfamser gostegwch y straen drwy ddefnyddio pants amsugnol golchadwy neu badiau bach tafladwy. Ewch i online shop ERIC am syniadau.

Last Reviewed: January 2024

Next Review: January 2027

On this page...

    Upcoming events

    Share this page