Cyngor i blant sy’n gwlychu yn ystod y nos

Mae plant yn gwlychu'r gwely yn gyffredin iawn, gan effeithio ar 1 o bob 15 plentyn saith oed ac 1 o bob 75 arddegwr. Mae'n duedd deuluol, ond nid oes neb ar fai.

Does dim rhaid i chi aros i'ch plentyn ddod ohoni – mae triniaeth ar gael o 5 oed ymlaen (gweler Canllawiau NICE).

Yn gyntaf, rhaid gweithio allan PAM mae eich plentyn yn gwlychu – mae llawer o wahanol resymau a phob un â'i driniaeth benodol.

Gall rhwymedd achosi gwlychu yn ystod y nos:

  • Mae'r coluddyn llawn yn llenwi'r man yn y bol lle mae'r bledren eisiau ehangu a llenwi.
  • Does dim digon o le yn y bledren i ddal holl bi-pi y nos, felly mae'n gollwng.
  • Gall rhwymedd osgoi sylw heblaw am y gwlychu – gwiriwch y coluddyn yn gyntaf BOB AMSER.
  • Mae Advice for Children with Constipation ERIC yn esbonio sut i weld yr arwyddion a beth i'w wneud.

Mae rhai plant yn cael problemau'r bledren yn ystod y dydd hefyd:

  • Gall hyn gynnwys gwlychu yn ystod y dydd/brys/amlder.
  • Gall Haint y Llwybr Wrinol (UTI) hefyd achosi gwlychu yn ystod y nos.
  • Mae’n rhaid delio â phroblemau'r bledren yn ystod y dydd cyn ymchwilio i faterion yn y nos. Darllenwch Advice for Children with Daytime Bladder Problems ERIC Advice for children with daytime bladder problems i ddysgu sut mae'r bledren yn gweithio, a sut i ofalu amdani gan ddilyn y 4 cam at Bledren Iach

Rheoli pledren iach, ond gwlyb o hyd?

Mae angen rhestr wirio amser gwely:

  • Gweithiwch ar ddatrys yr yfed yn ystod y dydd – digon ohono, wedi'i ddosbarthu'n gyson, a meddwl am beth maen nhw'n yfed – ond hefyd gweithio ar drefn yfed amser gwely dda. DIM diodydd am awr cyn amser gwely bob nos, a dim rhagor ar ôl hynny tan y bore.
  • Ymarferwch drefn mynd i'r toiled amser gwely dda. Trefnwch sesiwn eistedd ar y toiled hamddenol fel rhan o baratoi ar gyfer gwely, a bwriwch nôl i'r toiled yn union cyn cysgu os yw hyn dros ½ awr yn ddiweddarach.
  • Cynhaliwch gyfnod prawf heb glytiau/gewynnau. Hyd yn oed os yw'r clytiau’n wlyb bob tro, ceisiwch fynd hebddynt am wythnos o leiaf, dwy o ddewis, neu fel arall ni fydd eich plentyn fyth yn teimlo'n wlyb wrth wneud pi-pi. Efallai mai dyma fydd yr union sbardun sydd ei angen i'w dihuno.
  • Gwarchodwch y gwely. Tynnwch y straen o wlychu'r gwely drwy brynu gorchudd matres diddos, a gorchuddion clustog a duvet diddos os yw eich plentyn yn wlyb iawn. Defnyddiwch gynfas amsugnol i ddal y pi-pi hefyd. Ewch i on-line shop ERIC am ystod eang o amddiffynyddion dillad gwely.
  • Paratowch eich plentyn ar gyfer cysgu. Ymlaciwch gyda llyfr neu gwrandewch ar gerddoriaeth gyda’r goleuadau'n isel. DIM sgriniau –dim teledu, iPad, gemau cyfrifiadurol yn ystod yr awr cyn cysgu, maent yn anfon y neges anghywir i’r ymennydd.
  • Helpwch eich plentyn i ymarfer mynd â'u hun i'r toiled os ydynt yn dihuno. Gosodwch olau nos gwan neu dortsh fel nad yw'n rhy dywyll. A ddylent
    fynd i'r ystafell ymolchi neu ddefnyddio poti/bwced/potel yn eu hystafell? A ydyn nhw mewn gwelyau bync? Defnyddiwch y bync gwaelod. Ymarferwch dynnu pyjamas i fyny ac i lawr, a'u newid os ydynt yn gwlychu.
  • Peidiwch â’u codi – hynny yw dihuno eich plentyn i fynd â nhw i'r toiled. Gall hyn gadw'r gwely'n sych, ond mae'n annog y plentyn i wneud pi-pi wrth gysgu gan nad ydynt yn dihuno go iawn.
  • Gwobrwywch bob cam ar hyd y ffordd – fel cael yr yfed yn iawn, gwneud pi-pi cyn mynd i'r gwely, a defnyddio'r toiled yn y nos.

Os yw'r gwlychu'r gwely yn parhau ar ôl gweithio ar y 4 cam at Bledren Iach, ac rydych wedi ymarfer trefn mynd i'r gwely dda yn ôl y rhestr wirio amser gwely, dylech weld y meddyg teulu neu’r nyrs ynglŷn â chlinig gwlychu'r gwely. Mae triniaeth ar gael o 5 oed ymlaen.

Beth arall sy'n achosi gwlychu'r gwely?

Caiff rhai plant drafferth i ddihuno pan fod angen pi-pi arnynt.

Nid am eu bod yn cysgu'n rhy drwm – ond am nad yw eu hymennydd yn adnabod y signal bod eu pledren yn llawn wrth gysgu. Gelwir hyn yn ‘anhawster i ddihuno’.

Sut fydda i'n gwybod?

  • Cysgu drwy wlychu
  • Gwlychu'n ddiweddarach yn y nos
  • Mannau gwlyb o faint cymedrol
  • Pi-pi â chrynodiad normal

Mae rhai plant yn gwlychu llawer.

Mae pawb yn creu’r hormon arbennig, fasopressin, yn y nos. Mae'n dweud wrth ein harennau am wneud llai o bi-pi tra byddwn yn cysgu. Nid yw rhai plant yn creu digon o fasopressin eto felly mae eu harennau'n cynhyrchu llawer o bi-pi gwanhaëdig – gormod i ffitio y tu mewn i'w pledren.
Sut fydda i'n gwybod?

  • Gwlychu yn y 2 – 3 awr gyntaf ar ôl mynd i gysgu
  • Gwlychu â meintiau mawr
  • Pi-pi gwanhaëdig

Dydy pledrenni rhai plant ddim yn ymestyn digon i ddal yr holl bi-pi maent yn ei wneud yn y nos.

Sut fydda i'n gwybod?

  • Gwlychu mwy nag unwaith yn y nos
  • Dihuno ar ôl gwlychu
  • Gwlychu â meintiau bach
  • Pi-pi â chrynodiad normal

Mae rhai plant yn wlyb am fwy nag un o'r rhesymau hyn.

Asesu

  • Llenwch y Night Time Diary am wythnos o leiaf. Bydd edrych ar fanylion eu gwlychu’n helpu i ddeall y prif reswm pam fod eich plentyn yn wlyb.
  • Ewch â'r dyddiadur i'ch apwyntiad. Bydd y meddyg neu'r nyrs yn gofyn llawer o gwestiynau – a yw eich plentyn wedi bod yn sych yn y nos o gwbl, sut mae eu pledren yn ymddwyn yn y dydd, amledd gwneud pŵ ac ati.
  • Byddant hefyd yn gofyn faint mae eich plentyn yn poeni am eu gwlychu. Mae gweithio tuag at fod yn sych yn y nos yn waith caled: rhaid i'r plentyn a'r rhieni fod yn uchel eu cymhelliant er mwyn gweld llwyddiant.

Triniaethau penodol

Larwm gwlychu'r gwely: gall larwm gwlychu'r gwely fod yn driniaeth ddelfrydol ar gyfer 'anhawster i ddihuno'. Mae gan larymau gwlychu'r gwely synhwyrydd sy'n nodi pan fod y gwlychu'n dechrau. Mae hyn yn actifadu larwm sy'n dihuno'r plentyn (ac/neu'r rhieni).

Mae dihuno’n gwneud i gyhyrau'r bledren dynhau felly mae'r plentyn yn stopio gwneud pi-pi. Gydag amser, bydd sŵn y larwm yn helpu'r plentyn i gysylltu'r teimlad o bledren lawn â'r angen am godi a mynd i'r toiled.

Yna byddant yn dysgu sut i ymateb i'r signal heb fod angen defnyddio'r larwm: byddant naill ai'n dihuno a mynd i'r toiled, neu'n dweud wrth gyhyrau'r bledren am ddal ymlaen ac aros tan y bore.

Gallwch fenthyca larymau gan eich clinig lleol neu eu prynu o siop ar-lein ERIC. Gellir defnyddio’r Bedwetting Alarm Diary i fonitro cynnydd.

Desmopressin: gall meddyginiaeth o'r enw Desmopressin gynyddu fasopressin y plentyn. Cymerir hon cyn amser gwely ac mae'n dweud wrth yr arennau am gynhyrchu llai o bi-pi am 8 awr, felly dylai'r bledren allu dal tan y bore.
Gall cymryd hon awr cyn amser gwely fod yn fwy effeithiol gan fydd yn arafu’r cynhyrchu pi-pi tra bod y plentyn yn paratoi ar gyfer gwely.

Mae’n rhaid dilyn cyfarwyddiadau llym fel stopio yfed awr cyn ei chymryd, a pheidio ag yfed am 8 awr ar ôl ei chymryd. Rhaid stopio cymryd y feddyginiaeth am wythnos bob 3 mis i asesu'r angen am barhau.

Gorweithgarwch: os nad yw'r bledren yn ymestyn digon, ac mae'r plentyn yn pasio pi-pis bach, aml, gwiriwch eto am rwymedd yn gyntaf. Yna gwnewch yn siŵr bod y plentyn yn yfed yn gywir.
Gallai symptomau parhaus fod oherwydd gorweithgarwch, pan fod y bledren yn gwasgu pan na ddylai. Y driniaeth ar gyfer hyn yw meddyginiaeth fel Oxybutynin neu Tolterodine.

Triniaeth gyfunol: efallai bydd angen triniaeth gyfunol ar blant sy'n wlyb am fwy nag un rheswm. Dylid dewis y driniaeth orau posibl. Yna os yw'r gwlychu'n parhau, dylid parhau â'r driniaeth ac ail-wneud y Night Time Diary. Yna gellir ychwanegu triniaeth arall.

Mwy o wybodaeth

Last Reviewed: January 2024

Next Review: January 2027

On this page...

    Upcoming events

    Share this page